Dysgwch am y cynllun pontio cynradd i uwchradd, ar gyfer athrawon sy’n siarad Cymraeg.

Nod y Cynllun Pontio arloesol yw cynyddu nifer yr athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg – a allech chi fod yn un ohonyn nhw?


Gan fod data’n awgrymu bod digon o athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cynllun pontio sy’n targedu athrawon cynradd sydd â Statws Athro Cymwysedig (SAC) i dderbyn hyfforddiant a chymorth er mwyn pontio i addysgu yn y sector uwchradd. Mae’r cynllun hefyd wedi’i ehangu i gynnwys athrawon uwchradd sydd wedi bod allan o’r proffesiwn ers pum mlynedd neu fwy ac athrawon sy’n dymuno dychwelyd i addysgu yng Nghymru o Loegr a gwledydd eraill.
 

Ffion Elson
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, bellach yn dysgu Cymraeg a Cherddoriaeth
Gan symud o’r cynradd i’r uwchradd, rydw i wedi bod wrth fy modd yn gallu gweithio gyda dysgwyr o bob oed trwy gydol y dydd.
Sian Bradley
Pennaeth Bioleg yn Ysgol Glantaf
Yr hyn dwi’n ei garu am y Gymraeg yw fy mod i’n defnyddio iaith fy nheulu, o ble dwi’n dod.
Meurig Jones
Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, sydd wedi croesawu athrawon y Cynllun Pontio
Mae athrawon cynradd wedi dod â’r ddealltwriaeth honno o sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd ar draws y cwricwlwm cyfan, sy’n fuddiol i’n dysgwyr a’n staff fel ei gilydd wrth i ni symud ymlaen â Chwricwlwm i Gymru.

YMGEISIWCH NAWR

Llenwch y ffurflen gais a’i chyflwyno erbyn dydd Mawrth y 19eg o Mawrth 2024.


Gofynnir ichi enwi tair ysgol, yn nhrefn eich dewis, yr hoffech hyfforddi ynddyn nhw; os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn hwyluso'r lleoliad hwn i chi.

Ymgeisiwch Nawr

Am ragor o wybodaeth mae’r swydd-ddisgrifiad ar gael ar ein hysbyseb swydd, neu gallwch ddarllen y Cwestiynau Cyffredin isod.

BETH SYDD ANGEN I CHI EI WYBOD...

Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin – ac os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r tîm ar AthrawonCC.WMTeachers@gov.wales

Os oes gennych chi Statws Athro Cymwysedig (SAC) fel athro/athrawes ysgol gynradd yn barod, a'ch bod yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yna rydym ni eisiau i chi wneud cais.

Mae’r cynllun pontio wedi’i ymestyn i fwy o bobl nag erioed o'r blaen. Gallwch hefyd wneud cais nawr os:
• Rydych chi eisoes yn addysgu yn y sector cynradd, ond nid trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd
• Mae gennych SAC cynradd ac ar hyn o bryd yn gweithio y tu allan i Gymru, ond yn dymuno addysgu yng Nghymru
• Mae gennych SAC (cynradd neu uwchradd) ac nid ydych wedi bod yn addysgu ers pum mlynedd neu fwy, ond yn dymuno dychwelyd i'r proffesiwn

Byddwch! Bydd pob unigolyn sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn derbyn cyflog ar y gyfradd briodol ar gyfer y flwyddyn ysgol. Bydd yr unigolion yn cael eu contractio a’u talu gan yr ysgolion/awdurdodau lleol.

Darperir y Cynllun Pontio mewn partneriaeth rhwng ysgolion a’r darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) dros gyfnod o flwyddyn ysgol. Bydd disgwyl i chi addysgu gwersi o wythnos 2 ymlaen, gydag amserlen addysgu yn cynyddu o 50% i 80% yn ystod y flwyddyn ysgol.

Bydd pedwar diwrnod o gefnogaeth yn cael eu darparu gan y darparwyr AGA ar y themâu canlynol:
•    Rheolaeth dosbarth
•    Ymddygiad pobl ifanc yn eu harddegau
•    Lles yr athro a datblygu dycnwch
•    Rheoli amser / llwyth gwaith
•    Cynllunio gwersi - trosolwg
•    Cwricwlwm newydd – trosolwg
•    Mewnbwn ieithyddol: yn ôl angen yr unigolion

Bydd ysgolion yn gyfrifol am ddarparu ystod o brofiadau a chefnogaeth a fydd yn darparu datblygiad proffesiynol i unigolion ar y canlynol:
•    Mewnbwn pynciol
•    Marcio ac adborth
•    Cynllunio gwersi

Bydd gan bob unigolyn fynediad at Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn gyfrifol am gynnal deialog proffesiynol am ddatblygiad gyda’r unigolyn bob pythefnos ac i roi cefnogaeth mewn gwers unwaith y pythefnos.